Y Gwir Anrhydeddus Elizabeth Truss AS

Prif Ysgrifennydd y Trysorlys

 

 

8 Gorffennaf 2019

 

Annwyl Brif Ysgrifennydd y Trysorlys,

Ariannu costau ychwanegol pensiynau’r sector cyhoeddus

Ar 27 Mehefin 2019, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig ynghylch Dyrannu cyllid i ysgwyddo costau ychwanegol pensiynau sector cyhoeddus Cymru yn 2019-20.

 

Yn ei datganiad, eglurodd y Gweinidog ei bod yn credu y byddai’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i gynlluniau pensiynau’r gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth y DU yn unol â’r Datganiad Polisi Cyllido (paragraff 1.17, eitem 10: pan fydd penderfyniadau a wneir gan unrhyw un o’r gweinyddiaethau datganoledig neu gyrff o dan eu hawdurdodaeth yn arwain at oblygiadau ariannol i adrannau neu asiantaethau Llywodraeth y DU, neu, fel arall, pan fydd penderfyniadau adrannau neu asiantaethau Llywodraeth y DU yn arwain at gostau ychwanegol i unrhyw un o’r gweinyddiaethau datganoledig, lle nad oes trefniadau eraill yn bodoli yn awtomatig i addasu ar gyfer costau ychwanegol o’r fath, bydd y corff a wnaeth y penderfyniad a arweiniodd ar y gost ychwanegol yn ysgwyddo’r gost).

 

Fodd bynnag, cadarnhaodd datganiad y Gweinidog y byddai £219 miliwn yn cael ei ddyrannu i Lywodraeth Cymru yn 2019-20 i dalu’r costau hyn, ond mai cyfanswm cost y newidiadau i gynlluniau pensiynau’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yw £255 miliwn, sy’n gadael bwlch o £36 miliwn.

 

Yn ei datganiad, mynegodd y Gweinidog ei phryderon ‘dwysaf’ hefyd am y ffaith nad yw’r cyllid arfaethedig yn talu’r costau llawn sy’n gysylltiedig â’r newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn rhannu pryderon y Gweinidog ac yn credu bod y sefyllfa hon yn tanseilio’n llwyr y Datganiad Cyllido a’r egwyddorion ar gyfer dyrannu cyllid yn y DU.

 

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn gryf o’r farn bod hwn yn fater sylfaenol i bob gwlad ddatganoledig a bod methiant Llywodraeth y DU i fodloni ei rhwymedigaethau fel y nodir yn y Datganiad Cyllido yn gwbl annerbyniol. Mae’r Pwyllgor am gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd yn ailystyried y dyraniad cyllid yn y sefyllfa hon ac yn talu’n llawn y costau ychwanegol sy’n deillio o’r newidiadau.

 

Hefyd, hoffai’r Pwyllgor gael sicrwydd na fydd y sefyllfa hon yn digwydd eto, ac mae’n awgrymu bod angen adolygu’r trefniadau presennol o ran y strwythur cyllido ar gyfer y gwledydd datganoledig i sicrhau eu bod yn gadarn ac yn addas i’r diben.

Yn gywir,

Llyr Gruffydd AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid